
Cwestiynau Cyffredin
Mae’r dudalen Cwestiynau Cyffredin hon yn cael ei diweddaru yn aml. Mae’r atebion ar sail ein meddylfryd cyfredol ynglŷn â sut y gallai’r Orsaf Ynni Rithwir weithio ac fe allai hyn newid.
Beth oedd gorsaf ynni rithwir unwaith eto?
Mae Gorsaf Ynni Rithwir (Virtual Power Plant [VPP]) yn cysylltu adnoddau ynni fel paneli solar, batris, thermostatau clyfar a cherbydau trydan mewn gwahanol leoedd gan ddefnyddio meddalwedd clyfar. Gyda’i gilydd maen nhw’n gweithio fel un orsaf ynni sy’n cynhyrchu, storio, rhannu a masnachu trydan.
Gall VPP allforio trydan glân i’r grid i helpu i reoli cyflenwad trydan a’r galw amdano. Mae hyn yn hanfodol i osgoi toriadau ynni. Os yw’r galw am drydan yn cynyddu fe all y VPP ymateb yn gyflym, gan gyflenwi ynni i’r grid.
Mae cynhyrchiant ynni’r haul yn amrywio gyda’r tywydd. Mae VPP yn helpu i roi ynni trydanol a gynhyrchir yn y cartref ar gael pan nad yw’r haul yn tywynnu drwy storio trydan ychwanegol mewn batris pan fo’r cynhyrchiant yn gryf a defnyddio’r ynni hwnnw mewn adegau o gynhyrchiant bach. Mae hyn yn golygu cyflenwad trydan sy’n fwy cadarn a mwy dibynadwy.
Am fod cynhyrchiant adnewyddadwy yn amrywio, gall VPP leihau codiadau a gostyngiadau ynni. Pan fo cynhyrchiant adnewyddadwy yn uchel ar y grid fe all y VPP fewnforio trydan ychwanegol a’i storio gyda batris. Pan fo’r cynhyrchiant yn gostwng fe gaiff yr ynni a storiwyd ei ryddhau, sy’n golygu cyflenwad trydan sy’n fwy cyson.
Mae manteision Gorsaf Ynni Rithwir yn cynnwys:
- Biliau ynni llai
- Llai o angen am orsafoedd ynni newydd costus
- Cyflenwad ynni mwy cyson a diogel
- Rhagor o ynni glân ‘cartref’
- Llai o allyriadau carbon
Mae’r fideos hyn yn rhoi trosolwg defnyddiol.
Animeiddiad syml byr 1:32 munud (Llywodraeth De Awstralia)
Meet Australia’s largest virtual power plant
Disgrifiad o Orsafoedd Ynni Rhithwir sy’n ddirodres, annibynnol, ac nid gan arbenigwyr yng nghyd-destun y DU gan ‘Just have a think’ (David Borlace). 12:30 munud
The power is finally in YOUR hands!
A oes Gorsafoedd Ynni Rhithwir i’w cael yn unman arall?
Mae Gorsafoedd Ynni Rhithwir mawr i’w cael yn UDA ac Awstralia:
- Mae gan Green Mountain Power, cynhyrchydd ynni mwyaf Vermont, orsaf ynni rithwir gyda 2900 o gwsmeriaid. Gall cwsmeriaid logi batri cartref Tesla neu brynu un ar bris gostyngol.
- Ym Massachusetts, gall trigolion ymuno â VPP ConnectedSolutions lle maen nhw’n ennill cymhellion i leihau defnydd o drydan ar amseroedd arbennig wrth roi defnydd o’u thermostat clyfar neu fatri.
- Mae VPP De Awstralia yn canolbwyntio ar dai cymdeithasol ac mae 6500 o gyfranogwyr.
Yn yr Almaen, mae VPP Next Kraftwerke yn cysylltu miloedd o gynhyrchwyr a defnyddwyr trydan. Mae’n defnyddio data o ragolygon tywydd, y grid, y farchnad ynni a’i VPP i fasnachu ynni am elw mawr.
Yn y DU, mae VPP Octopus Energy yn cysylltu cwsmeriaid â batris a Cherbydau Trydan. Mae ganddo allu i storio 1.5 Gigawatt (1.5 miliwn kW) o drydan, y gall alw arno. Mae cwsmeriaid yn elwa ar dariffau rhatach ar amseroedd tu allan i’r brig ar gyfer llenwi eu batris a’u ceir.
A oes Gorsaf Ynni Rithwir fel hon wedi cael ei threialu yn y DU?
Yn 2020-2022 gosodwyd paneli solar a batris mewn cartrefi, busnesau a chanolfannau cymunedol mewn prosiect yng Ngogledd Iwerddon. Torrodd biliau ynni tenantiaid tai cymdeithasol gan fwy na 50% mewn rhai achosion mewn ardal â chyfraddau uchel o dlodi tanwydd. Arbedodd hynny £27,000 ar filiau trydan ar gyfer 62 o dai dros 18 mis.
Cynhyrchodd y paneli solar 172 MWh o drydan adnewyddadwy – digon o ynni i gyflenwi 60 o gartrefi am flwyddyn. Cafodd 31 MWh ei allforio i’r grid.
Pam mae Prosiect NUR yn arloesol?
Nid oes unrhyw Orsafoedd Ynni Rhithwir ym meddiant cymunedau trefol yn y DU. Mae’r rhan fwyaf o Orsafoedd Ynni Rhithwir ym meddiant cyflenwyr ynni neu gwmnïoedd technoleg. Fe all cymdogaethau sydd â modd i gynyrchu ynni adnewyddadwy berchnogi ac elwa ar yr ynni y maen nhw’n ei gynhyrchu. Mae ynni cymunedol yn golygu mwy na thyrbinau gwynt a ffermydd solar – mae hyn ar gyfer cymunedau trefol hefyd.
Mae Prosiect NUR yn bwriadu treialu cynnig paneli solar a batri heb unrhyw gost ddechreuol, gyda thaliadau misol ar sail canran o’r arbedion. Mae’r risg i’r trigolion yn cael ei leihau. Nid oes neb wedi defnyddio’r dull hwn o’r blaen.
A yw hyn ar gael i mi?
Ydyw, os ydych chi:
- Yn byw yng Nghaerdydd neu yng Nghasnewydd, De Cymru.
- Yn berchennog eich cartref, yn landlord preifat, neu’n denant preifat gyda chaniatâd eich landlord.
- Yn byw mewn eiddo sy’n addas ar gyfer paneli solar a batri.
- Yn awyddus i gymryd rhan mewn prosiect sy’n fuddiol i’ch cymuned.
- Heb fod â phaneli solar na storio â batri.
- Heb fod yn byw mewn fflat.
A yw fy nghartref i’n addas?
Mae’n debyg y bydd eich cartref chi’n addas ar gyfer system solar a batri os:
- Yw’r to yn wynebu’r de, y dwyrain neu’r gorllewin a heb ei gysgodi.
- Yw’n effeithlon o ran ynni (inswleiddio a system wresogi foddhaol).
- Bod digon o le’r tu mewn neu’r tu allan ar gyfer batri a gwrthdröydd (1.5m(hyd) x 1m(lled) x 0.5m(dyfnder) yn fras).
Byddwn yn asesu pa mor addas yw eich cartref chi cyn cynnig ymweliad â’r cartref ac yn ystod yr ymweliad â’r cartref.
Beth sy’n digwydd yn ystod ymweliad â chartref?
Edrychwch ar dudalen ‘Gwnewch gais am ymweliad â chartref’ am fwy o fanylion.
Beth fyddai angen i mi ei wneud ar gyfer manteisio ar y VPP?
- Dod yn fyw cyfarwydd o ran swm y trydan a ddefnyddiwch a’r amseriadau.
- Lleihau eich defnydd o drydan yn gyffredinol.
- Sicrhau tariff priodol.
- Defnyddio’r trydan a gynhyrchir gan eich paneli solar yn ystod y dydd. Newid yr amser pryd y byddwch chi’n defnyddio trydan i fod tu allan i oriau brig (4-8pm Dydd Llun – Dydd Gwener) pan mae’n gostus os yw hynny’n bosibl i chi. Mae’r batri yn darparu diogelwch i chi os yw hynny’n anodd, os oes plant gennych chi er enghraifft.
Faint o ostyngiad y gallwn ei weld yn fy miliau ynni?
Y mae’n well meddwl yn nhermau arbedion %. Mae aelwydydd yn defnyddio symiau gwahanol iawn o drydan ar sail maint y tŷ, nifer y preswylwyr, yr offer trydanol, a sut caiff ei ddefnyddio. Gallai eich bil trydan leihau yn sylweddol, yn arbennig felly os ydych chi’n gwresogi â thrydan. Mewn prosiect tebyg fe welodd trigolion ostyngiad yn eu deunydd o drydan gan hyd at 50%.
Nid wyf i’n defnyddio llawer o drydan. A yw hi’n werth i mi osod paneli solar a batri?
Am mai ychydig o drydan yr ydych chi’n ei ddefnyddio, fe fyddai hi’n cymryd llawer o flynyddoedd i chi adennill eich buddsoddiad pe byddech chi’n prynu eich system solar a storio eich hunan. Gyda Phrosiect NUR fe allech chi fanteisio ar filiau ynni llai heb unrhyw gost ddechreuol. Fe fyddech chi’n cefnogi’r gymuned, oherwydd fe allai platfform y VPP allforio sum cymharol fawr o’ch trydan. Da iawn chi!
A oes angen i mi gael caniatâd i osod paneli solar a batri?
Os ydych chi’n berchen ar eich cartref, gofynnwch chi ddarparwr eich morgais. Os ydych chi’n lesddeiliad, gofynwch i’ch sefydliad rheoli.
Pwy fyddai’n berchen ar y paneli solar a’r batri?
Y mudiad ynni cymunedol a fyddai’n berchen arnynt, ac yn gyfrifol am eu cynnal a’u cadw.
Ai cynllun llogi toeau yw hwn?
Nage. Mae’r cytundebau llogi toeau gwreiddiol wedi diweddu. Roedd hynny’n golygu y byddai preswylydd yn gallu llogi lle ar ei do i gontractwr am 25 mlynedd yn gyfnewid am baneli solar rhad ac am ddim. Byddai’r contractwr yn derbyn taliadau am gynhyrchiant (Tariff Bwydo i Mewn) ar ran y preswylydd. Ar ddiwedd y cytundeb fe allai’r preswylydd brynu’r paneli, eu tynnu i ffwrdd, neu adnewyddu’r cytundeb.
Cododd problemau oherwydd na allai perchnogion y tai:
- Dderbyn y Tariff Bwydo i Mewn
- Addasu’r to weithiau i drwsio neu wneud newidiadau eraill i’w cartref.
Mewn rhai achosion, roedd yn rhaid i berchnogion y tai gael cydsyniad i werthu eu cartrefi neu wynebu heriau o ran gwerthu eu tai. Yn ogystal â hynny, nid oedd rhai cytundebau yn cynnwys dewis i brynu’r paneli solar, a oedd yn gadael preswylwyr heb ffordd allan tan ddiwedd y les.
Mae ein dull o sefydlu Gorsaf Ynni Rithwir yn osgoi camgymeriadau cynlluniau llogi toeau:
- Y chi a fyddai’n dewis eich cyflenwr trydan ac yn derbyn y Warant Allforio Clyfar (a ddisodlodd y Tariff Bwydo i Mewn) ar gyfer y trydan y byddwch yn ei allforio.
- Y chi a fydd yn ‘lletya’ y paneli solar a’r batri yn eich cartref.
- Y mudiad ynni cymunedol a fyddai’n yswirio’r technolegau ynni adnewyddadwy.
- Byddai’r cytundeb yn ymdrin yn bendant â phryderon, megis sut i ymadael â’r cytundeb, gofynion wrth newid y to neu adeiladu estyniad, newid tŷ, unrhyw gostau eraill, a’r hyn sy’n digwydd i’r paneli solar a’r batri ar ddiwedd y cytundeb.
Mae angen i ni gael deall sut yr ydych chi’n dymuno i Orsaf Ynni Rithwir weithio, fel gallai’r cytundeb roi ystyriaeth i hynny. Os nad yw’r Orsaf Ynni Rithwir yn gweithio i bobl leol, ni wnaiff unrhyw un ymuno â hi, ac ni all Prosiect NUR fynd ymlaen i’r cam nesaf o gyflawni’r gosodiadau.
A fydd y VPP yn dadwefru’r batri fel bydd yn rhaid i mi ddefnyddio trydan costus o’r grid?
Na fydd. Bydd y batri yn cadw 20% o leiaf o wefru i amddiffyn ei iechyd. Mae meddalwedd y VPP yn dysgu hefyd ar ba amseroedd a swm yr ynni y mae eich cartref yn ei ddefnyddio, felly bydd yn sicrhau na fydd y batri yn darfod pan fydd ei angen arnoch chi.
A fydd y VPP yn cynyddu fy miliau trydan am ei fod yn gwefru’r batri â thrydan costus?
Na fydd. Mae’r VPP yn gwefru’r batri ar sail cyfrifiadau manwl sy’n optimeiddio’r prisiau gorau am ynni, felly fe gewch chi’r trydan rhataf.
Nid yw fy nghartref i’n addas ar gyfer paneli solar. A gaf i fatri ar ei ben ei hun?
Fe fyddwn ni’n sicr yn ystyried hynny yn y dyfodol, os byddwn ni’n bwrw ymlaen â’r gosodiadau.
Nid yw fy nghartref i’n addas ar gyfer paneli solar na batri. A allaf i gymryd rhan er hynny?
Gallwch! Fe allwch chi gefnogi’r prosiect drwy sôn amdano wrth eich cyfeillion a’ch teulu. Os bydd y prosiect yn cyrraedd y cam gosodiadau, bydd cychwyn y mudiad ynni cymunedol yn cynnwys cynnig o gyfranddaliadau. Os oes gennych chi arian i’w fuddsoddi, fe allech chi fuddsoddi yn y mudiad. Os nad oes, fe allech chi ei gefnogi drwy chwarae eich rhan a rhannu eich sgiliau.
Cofiwch mai mynegi ein meddylfryd ar hyn o bryd y mae’r Cwestiynau Cyffredin hyn ac felly mae posibilrwydd y byddant yn newid. Os oes cwestiwn gennych chi na chafodd ei ateb, os gwelwch yn dda, dewch i ddigwyddiad neu cysylltwch â ni.
