
Busnesau a mudiadau

Gosododd y Bengal Dragons Foundation ac YnNi Teg baneli solar a storio â batris yn llwyddiannus mewn saith o fosgau yn Ne Cymru yn 2024-2025. Mae cynlluniau i ehangu hyn i gymunedau yng Ngogledd a Gorllewin Cymru. Am fwy o fanylion gweler Gwyrdd Bangla project.
Rydym ni’n awyddus i weithio gyda busnesau a mudiadau cymunedol sydd ag adeiladau ar gyfer eu helpu i osodo paneli solar a batris.
Rydym ni’n gallu cynnig:
- Cyngor a chefnogaeth ymarferol
- Darpariaeth o wybodaeth ynglŷn â grantiau a chyllid
- Cynnal arolygiadau o safleoedd ac ymgysylltu â chontractwyr
Gall manteision ar gyfer mudiadau gynnwys:
- Biliau ynni llai
- Amddiffyniad rhag codiadau gyda chostau ynni yn y dyfodol
- Cefnogaeth i’r gymuned leol
- Lleihau allyriadau carbon
- Cynyddu proffil cyhoeddus
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost i hello@projectnur.cymru neu cysylltwch â ni.
