Hafan

slide-general-temp
Ymunwch â rhwydwaith cymunedol o ynni’r haul a batris yng Nghaerdydd a Chasnewydd

Prosiect NUR (Neighbourhoods Using Renewables)

Cymdogaethau yn defnyddio ynni adnewyddadwy – gadewch inni ddefnyddio ynni golau dydd!

A ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu costau ynni cynyddol? Rydym ni’n ymchwilio i sut y gallwn ni wneud rhywbeth ynglŷn â hynny.

I gymryd rhan:

Sut mae’n gweithio

Un o’r ffyrdd gorau i leihau biliau yw gyda phaneli solar a batri, ond mae gosod y rhain yn waith costus. Rydym ni’n anelu at  ddarparu system fel hon heb unrhyw daliad dechreuol ar gyfer aelwydydd cymwys yng Nghaerdydd a Chasnewydd.

I wneud y defnydd gorau o baneli solar a batris, rydym ni’n awyddus i’w cysylltu nhw â rhwydwaith cymunedol mwy eang gan ddefnyddio meddalwedd arbenigol a fydd yn golygu’r arbedion mwyaf –  ‘gorsaf ynni rithwir’ (Virtual Power Plant [VPP]).

Beth yw Prosiect Nur?

Cynllun peilot yw Prosiect NUR sy’n anelu at sefydlu menter gymunedol a fydd yn datblygu’r rhwydwaith hwn.

Rhesymau Dros Gymryd Rhan Nawr

Gwybodaeth am sut y gallech arbed arian gyda phaneli solar

Cynorthwywch wrth gynllunio prosiect er budd eich cymuned

Cymerwch ran mewn rhywbeth arloesol am ddyfodol gwyrddach, tecach]

Ar hyn o bryd, rydym ni ar y cam dichonoldeb:

  • Yn ymweld â chartrefi i asesu addasrwydd ar gyfer gosod paneli solar a batris yn y dyfodol.
  • Yn casglu barn preswylwyr am y syniad.
  • Yn deall sut y gallai hyn weithio orau yng Nghaerdydd a Chasnewydd.

Er mwyn i hyn weithio yn dda fe fydd angen i lawer o aelwydydd ymuno â’r rhwydwaith cymunedol. Fe fyddem ni’n falch iawn o gael gwybod y gallech chi gymryd rhan ynddo.

Yr hyn sy’n digwydd mewn ymweliad â chartref

  • Fe fyddwn ni’n edrych ar eich to i weld pa mor addas ydyw ar gyfer gosod paneli, lle ar gyfer batri a chyfarpar trydanol.
  • Fe fyddwn ni’n egluro sut y gallai’r prosiect weithio ac yn gwrando ar eich syniadau a’ch pryderon chi.
  • Fe fyddwn ni’n cynnig cyngor ar ynni i’ch helpu i leihau eich biliau.

Mae ymweliad yn rhad ac am ddim, heb unrhyw ymrwymiad.

Cysylltwch â: hello@projectnur.cymru

Os ydych chi'n hoffi'r cynnwys hwn, rhannwch ef: