{"id":467,"date":"2025-08-13T17:08:40","date_gmt":"2025-08-13T16:08:40","guid":{"rendered":"https:\/\/staging.projectnur.cymru\/project-nur-privacy-policy\/"},"modified":"2025-08-20T13:32:23","modified_gmt":"2025-08-20T12:32:23","slug":"polisi-preifatrwydd-prosiect-nur","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/projectnur.cymru\/cy\/polisi-preifatrwydd-prosiect-nur\/","title":{"rendered":"Polisi Preifatrwydd Prosiect NUR"},"content":{"rendered":"\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Prosiect NUR yn cael ei ddarparu gan YnNi Teg mewn partneriaeth \u00e2\u2019r <em>Bengal Dragons Foundation<\/em>. Mae\u2019r polisi preifatrwydd a ganlyn yn berthnasol i holl weithgarwch Prosiect NUR.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Polisi preifatrwydd<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym ni wedi llunio\u2019r datganiad preifatrwydd hwn i ddarparu gwybodaeth dryloyw, hawdd ei deall o ran ein defnydd ni o ddata. Fe fyddwch chi\u2019n deall yr hyn yr ydym ni\u2019n ei gasglu, pam rydym ni\u2019n ei gasglu, a pha bethau y byddwn ni\u2019n eu gwneud gyda\u2019r data. Mae\u2019r polisi hwn yn berthnasol i holl weithgarwch Prosiect NUR a ddarperir gan Ynni Teg (fe fyddwn ni\u2019n cyfeirio at y rhain gyda\u2019i gilydd fel \u201cGwasanaethau\u201d).<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Y Wybodaeth a Gesglir<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein gwefan ni\u2019n defnyddio ffurflenni y byddwch chi\u2019n rhoi manylion cyswllt arnyn nhw i ni (fel eich enw, cyfeiriad, rhif ff\u00f4n, rhif ffacs, gwybodaeth bilio, cyfeiriad preswyl, cyfeiriad IP a chyfeiriad e-bost) ar gyfer creu cyfrif, gwneud archebion, ceisio am wybodaeth, a gofyn am gymorth i\u2019ch cefnogi. Wrth i ni ddefnyddio eich cyfrif chi, fe allem ni gasglu ceisiadau am gymorth a gwybodaeth berthnasol o fathau eraill sy\u2019n neilltuol i reolaeth eich cyfrif a\u2019ch Gwasanaethau gyda ni.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Angen Cyfreithiol<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae angen cyfreithiol a\/neu gytundebol am wybodaeth o\u2019r math hwn ar gyfer gallu prynu a defnyddio Gwasanaethau. Er enghraifft, mae angen i ni allu gwirio gwybodaeth o\u2019r math hwn ar gais ein prosesydd taliadau ni. Mae angen amdani hefyd ar gyfer cyflwyno hysbysiadau cyfreithiol i chi a gwneir hynny\u2019n orfodol gan rai Gwasanaethau a gynnigir gennym ni. Mae hi\u2019n orfodol yn \u00f4l y gyfraith i ni wirio bod y wybodaeth a roddir yn gywir a chyflwyno hysbysiadau sy\u2019n unol \u00e2\u2019r gyfraith. Ystyrir bod cydsyniad cytundebol yn cael ei roi dros gyfnod eich defnydd chi o\u2019r cyfryw Wasanaeth ac unrhyw gyfnod cadwraeth sy\u2019n angenrheidiol yn \u00f4l y gyfraith.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut Byddwn Ni\u2019n Defnyddio\u2019r Wybodaeth Hon<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Anfon E-byst.\u00a0Gofynnol yn Gyfreithiol<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fel nodir uchod, rydym ni\u2019n defnyddio e-byst i gysylltu \u00e2 chi, ar gyfer anfon gwybodaeth y gwnaethoch chi ofyn amdani ac ar gyfer cyflwyno negeseuon sy\u2019n ofynnol yn gyfreithiol neu\u2019n gytundebol. Mae e-byst gofynnol yn gyfreithiol yn cynnwys e-byst gwirio ac unrhyw bolisi neu weithdrefn a lunir gan Ynni Teg neu ein partneriaid ni. Neu, fe allem ni farnu bod newid i un o\u2019n polis\u00efau ni\u2019n berthnasol a, chan hynny, benderfynu bod dyletswydd (er nad yn ofynnol yn gyfreithiol) i ni roi gwybod i chi am y newid hwnnw. Nid yw negeseuon o\u2019r mathau hyn yn gynwysedig yn unrhyw un o\u2019n gweithdrefnau ni ar gyfer ymeithrio.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Anfon E-byst: Negeseuon Gwasanaeth a Negeseuon Hysbysebol\u00a0<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe allem ni ddefnyddio\u2019r wybodaeth hon pan fo hi\u2019n bwysig i ni gysylltu \u00e2 chi yngl\u0177n \u00e2 newidiadau o natur ymarferol i\u2019r Gwasanaethau y gwnaethoch chi eu prynu a\/neu i\u2019n gwefan a rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid (\u201cNegeseuon Gwasanaeth\u201d.) Drwy brynu neu ddefnyddio ein Gwasanaethau ni, rydych chi\u2019n cytuno i dderbyn y mathau hyn o negeseuon ac yn cydnabod eu bod yn orfodol. Rydym ni\u2019n defnyddio\u2019r wybodaeth hon ar gyfer rhannu manylion am wasanaethau newydd a chynigion arbennig y credwn y bydden nhw o fudd i chi hefyd (\u201cNegeseuon Hysbysebol\u201d.) Gallwch ymeithrio o Negeseuon Hysbysebol (neu ddewis eu derbyn) drwy anfon e-bost i ni yn\u00a0<a href=\"mailto:info@ynniteg.cymru\">info@ynniteg.cymru<\/a>\u00a0.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Datgeliad Gofynnol yn Gyfreithiol<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ni fyddwn fyth yn rhannu eich gwybodaeth chi heb eich caniat\u00e2d neu mewn ffyrdd eraill nad amlinellir yn y polisi hwn. Yr unig eithriadau i hyn yw pan fyddai hynny\u2019n orfodol i ni yn \u00f4l y gyfraith, yn y gred gyda phob ewyllys da y byddai\u2019r cyfryw weithred yn angenrheidiol i gydymffurfio \u00e2\u2019r gyfraith, neu pan fyddai\u2019n rhaid i ni gydymffurfio \u00e2 phroses gyfreithiol. Mae gorchmynion llys a gwysion yn esiamplau o\u2019r mathau hyn o eithriadau. Ym mhob un o\u2019r sefyllfaoedd hyn, fe fyddwn ni\u2019n adolygu\u2019r dogfennau a ddarperir yn ofalus ac yn cydymffurfio ar yr amod y byddai\u2019r cyfryw ddogfennau yn cyrraedd safonau cyfreithiol angenrheidiol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Newidiadau yn Ein Hymarferion<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pe byddem ni\u2019n newid ein hymarferion o ran defnyddio gwybodaeth neu agweddau eraill sy\u2019n ymwneud \u00e2 phreifatrwydd, fe fyddem ni\u2019n nodi\u2019r newidiadau hynny yn y datganiad hwn o bolisi. Os gwnawn ni unrhyw newidiadau sylweddol, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy gyfrwng hysbysiad ar y wefan hon cyn i\u2019r newid ddod i rym, ac fe allem ni wneud ymgais i roi gwybod i chi drwy e-bost am y newidiadau o ran preifatrwydd, pe byddai angen.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Casglu Gwybodaeth<\/h2>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth oddi wrth Offer\u00a0<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym ni\u2019n casglu gwybodaeth oddi wrth eich offer chi (cyfrifiaduron, ffonau symudol, llechi, ac ati), fel cyfeiriad IP, gwybodaeth cwci, er mwyn i ni adnabod eich offer ar gyfer anfon hysbysiadau cyfreithiol i chi (os yw hynny\u2019n ofynnol yng ngwladwriaeth eich preswylfod), gwasanaethau cymorth (wrth i chi gysylltu \u00e2\u2019n staff cymorth) a phrofiadau a bersonolir ar ein gwefan a chydag e-byst. Gall rhai mathau o gasgliadau a defnydd fod yn ddewisol a gellir eu rheoli drwy gyfrwng ein harfau cwcis.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth oddi wrth Eraill\u00a0<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym ni wedi ymrwymo i wella eich profiad chi ar ein gwefan yn barhaus. Fel llawer o gwmn\u00efau, rydym ni\u2019n defnyddio trydydd part\u00efon i\u2019n helpu i olrhain pori, nodi problemau technegol a darparu ffyrdd i wella eich profiad cyfan. Dyma rai o\u2019r arfau a ddefnyddiwn ni a\u2019u gweithrediad nhw:<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Ffeiliau Cofnodi<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym ni\u2019n defnyddio gwybodaeth a gesglir amdanoch chi oddi wrth ystadegau ein gwefan drwy ffeiliau cofnodi a ddarperir gan bartneriaid olrhain trydydd parti \u00a0(er enghraifft, eich cyfeiriad IP) i helpu i\u00a0 ganfod problemau gyda\u2019n gweinydd ac wrth weinyddu ein gwefan. Rydym ni\u2019n casglu gwybodaeth ddemograffig fras o\u2019r data hyn i\u2019n helpu i rymuso ein gwefan a gwneud eich pori a\u2019ch profiadau wrth brynu yn fwy dymunol. Nid yw hyn yn gysylltiedig ag unrhyw wybodaeth sy\u2019n gallu enwi unigolion.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cwcis<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein gwefan ni\u2019n defnyddio cwcis i olrhain gwybodaeth am eich sesiwn chi. Rydym ni\u2019n cysylltu\u2019r wybodaeth a gadwn ni mewn cwcis at wybodaeth bersonol i chi a anfonwch wrth ddefnyddio ein gwefan. Gallwn ddefnyddio cwcis adnabod sesiynau a chwcis parhaus fel ei gilydd. Mae cwci adnabod sesiwn yn darfod wrth i chi gau eich porwr. Mae cwci parhaus yn aros ar y gyriant am gyfnod estynedig o amser. Gallwch gael ymwared ar gwcis parhaus drwy ddilyn y cyfarwyddiadau a rodddir yn ffeil \u201chelp\u201d eich porwr. Rydym ni\u2019n defnyddio cwcis i storio eich enw hefyd os ydych chi\u2019n dewis i\u2019ch manylion gael eu cofio wrth fewngofnodi. Bydd y wybodaeth honno\u2019n cael ei defnyddio i lenwi\u2019r ffurflen mewngofnodi o flaen llaw ar achlysuron dilynol. Os ydych chi\u2019n cael eich atgyfeirio i\u2019n gwefan ni drwy hysbyseb neu wefan bartner, byddwn yn storio\u2019r wybodaeth am yr atgyfeirio yn y cwcis. Nid yw defnydd cwcis gan ein partneriaid, cysylltiedigion, unrhyw gwmni gwasanaeth olrhain a darparwyr gwasanaeth wedi ei gwmpasu yn ein datganiad polisi ni. Nid oes gennym ni fynediad at y cwcis hyn nac unrhyw reolaeth arnyn nhw. Mae ein cwmni gwasanaeth olrhain yn defnyddio cwcis adnabod sesiynau i\u2019n helpu i wella ein gwefan a gwneud eich profiadau chi\u2019n fwy dymunol wrth bori a phrynu. Gweler eich panel dewisiadau cwcis am gyfarwyddiadau ychwanegol o ran sut i ddewis defnyddio cwcis neu ymeithrio. Mae\u2019r panel dewisiadau cwcis yn dod i\u2019r golwg pan fyddwch chi wedi gwneud penderfyniad ar y ffenestr naid polisi cwcis. Gwelwch ragor o wybodaeth o ran y categor\u00efau o gwcis a ddefnydddiwn ni a\u2019n polisi cwcis penodol yma. Drwy ddal ati i ddefnyddio a llywio ein gwefannau, gwasanaethau, rhaglenni, arfau neu anfon negeseuon, rydych chi\u2019n cydsynio i\u2019n defnydd ni o gwcis fel nodir yn y Polisi Preifatrwydd hwn.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Arolygon<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">O bryd i\u2019w gilydd, rydym ni\u2019n gofyn am wybodaeth oddi wrth ddefnyddwyr drwy gyfrwng arolygon. Mae cyfranogiad yn yr arolygon hyn yn gwbl wirfoddol, ac mae\u2019r defnyddiwr, gan hynny, \u00e2 dewis o ran ymateb a datgelu\u2019r wybodaeth hon neu beidio. Gall y wybodaeth y gofynnir amdani gynnwys manylion cyswllt (fel enw, e-bost) a gwybodaeth ddemograffig (fel cod post). Defnyddir gwybodaeth o arolygon at ddibenion monitro neu wella\u2019r defnydd a\u2019r profiad wrth bori\u2019r wefan hon a\u2019n Gwasanaethau ni.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Geirda<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe allem ni roi geirda oddi wrth gwsmeriaid ar ein gwefan a allai gynnwys gwybodaeth sy\u2019n rhannu peth o fanylion unigolion. Fe fyddwn ni\u2019n cael cydsyniad y cwsmer drwy gyfrwng e-bost, cyn cyhoeddi\u2019r geirda, ar gyfer nodi ei enw gyda\u2019i eirda. Os hoffech chi wneud cais am dynnu eich geirda chi oddi ar y wefan, cysylltwch \u00e2 ni yn\u00a0<a href=\"mailto:info@ynniteg.cymru\">info@ynniteg.cymru<\/a><\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Cynigion a Gwefannau Trydydd Parti<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein gwefan ni\u2019n cynnwys dolenni at wefannau trydydd parti eraill hefyd. Nid yw Ynni Teg (<a href=\"http:\/\/www.ynniteg.cymru\/\">www.ynniteg.cymru<\/a>) yn gyfrifol am ymarferion preifatrwydd na chynnwys y cyfryw wefannau. Rydym yn eich annog i ddarllen polisi prefatrwydd unrhyw wefan yr ymwelwch \u00e2 hi gyda gofal.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut Byddwn Ni\u2019n Rhannu\u2019r Wybodaeth Hon<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae Ynni Teg yn rhannu gwybodaeth ymhlith ei brandiau a chwmn\u00efau cysylltiedig, a phartneriaid eraill. Byddwn hefyd yn rhannu gwybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi at y dibenion a ddisgrifir yn y Polisi Preifatrwydd hwn, yn cynnwys ar gyfer darparu Gwasanaethau y gwnaethoch chi ofyn amdanyn nhw. Nid ydym ni\u2019n rhannu gwybodaeth sy\u2019n enwi ein cwsmeriaid unigol gyda chwmn\u00efau, mudiadau nac unigolion y tu allan i Ynni Teg, os nad oes unrhyw un o\u2019r amgylchiadau a ganlyn yn berthnasol:<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gyda\u2019ch Cydsyniad chi<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe fyddwn ni\u2019n rhannu gwybodaeth \u00e2 chwmn\u00efau, mudiadau neu unigolion y tu allan i Ynni Teg wrth i ni fod \u00e2\u2019ch cydsyniad chi. Mae hyn yn cynnwys darparwyr trydydd parti sy\u2019n cynnig nwyddau neu wasanaethau. Bydd gan bob un o\u2019r darparwyr hyn eu polisi preifatrwydd eu hunain ac fe\u2019u nodir yn briodol.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">O fewn Ynni Teg\u00a0<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Gellir rhannu gwybodaeth o fewn Ynni Teg hefyd ar gyfer rhoi cymorth a chyflenwi Gwasanaethau a brynwch.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">Gyda Phartneriaid<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe allem ni rannu eich gwybodaeth \u00e2 chwmn\u00efau heb fod yn gysylltiedig sy\u2019n:<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bartneriaid Hysbysebu, Dadansoddeg a Busnes (Cyfyngedig i Wybodaeth Nad yw\u2019n Enwi Unigolion).&nbsp;<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe allem ni rannu gwybodaeth gyfunol neu ffugenwol (yn cynwys gwybodaeth ddemograffig) gyda phartneriaid, fel dadansoddeg fesuriad, apiau, neu gwmn\u00efau eraill. Nid ydym ni, fodd bynnag, yn rhannu gwybodaeth sy\u2019n eich enwi yn bersonol (gwybodaeth sy\u2019n enwi yn bersonol yw gwybodaeth fel enw neu gyfeiriad e-bost.) Pan fyddwch chi\u2019n defnyddio apiau, gwefannau neu gynhyrchion trydydd parti eraill sy\u2019n integredig \u00e2\u2019n Gwasanaethau ni, fe allen nhw gasglu gwybodaeth am eich gweithgareddau yn amodol ar eu telerau a\u2019u polis\u00efau preifatrwydd eu hunain.<\/p>\n\n\n\n<h3 class=\"wp-block-heading\">At Ddibenion Cyfreithiol ac Eraill\u00a0<\/h3>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Fe allem ni ddefnyddio, cadw a datgelu gwybodaeth ar gyfer ymchwilio, atal neu gymryd camau sy\u2019n gysylltiedig \u00e2: (i) threfn gyfreithiol a cheisiadau cyfreithiol; (ii) gorfodi ein Telerau Gwasanaeth Cyffredinol; (iii) haeriadau fod unrhyw gynnwys yn tramgwyddo hawliau trydydd part\u00efon; (iv) ceisiadau am gymorth cwsmeriaid; (v) materion technegol; (vi) amddiffyn hawliau, eiddo neu ddiogelwch personol Ynni Teg, ei ddefnyddwyr neu\u2019r cyhoedd; (vii) sefydlu neu ymarfer ein hawliau cyfreithiol neu amddiffyn yn erbyn hawliadau cyfreithiol; neu (viii) fel mae\u2019r gyfraith yn ei orchymyn fel arall. Gallai hyn gynnwys ymatebiadau i geisiadau cyfreithlon gan lywodraeth.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Diogelwch y Wefan<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae mesurau ar waith ar ein gwefan ni ar gyfer amddiffyn colledion, camddefnydd neu newidiadau o ran y wybodaeth sydd yn ein rheolaeth. Rydym ni\u2019n defnyddio dioglewch SSL 128-bit (neu fwy) i seiffro unrhyw ddarllediadau pan fyddwch chi\u2019n darparu gwybodaeth cerdyn credyd, data personol, ac ati. Nid yw unrhyw ddull o storio neu ddarlledu electronig dros y rhyngrwyd yn 100% sicr, serch hynny. Felly, ni allwn warantu ei ddiogelwch absoliwt.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Amddiffyn Preifatrwydd Plant<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae ein Gwasanaethau ni ar gyfer pobl yn gyffredin. Nid ydym yn fwriadol yn casglu, defnyddio nac yn rhannu gwybodaeth y gellid ei defnyddio i enwi plant o dan 18 oed heb ganiat\u00e2d rhiant o flaen llaw neu\u2019n unol \u00e2 chyfraith berthnasol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Prosesu a Throsglwyddo Data<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Pan fyddwch chi\u2019n defnyddio neu\u2019n rhyngweithio ag unrhyw un o\u2019n Gwasanaethau ni, rydych chi\u2019n cydsynio i\u2019r prosesu, rhannu, trosglwyddo a defnydd o\u2019r data gyda\u2019ch gwybodaeth fel amlinellir hynny yn y Polisi Preifatrwydd hwn, a dim ond pan fo angen gwneud hynny er mwyn cyflawni ein cytundeb \u00e2 chi, pan fyddwn wedi cael eich cydsyniad i wneud felly, neu\u2019n amodol ar gymalau cytundebol safonol priodol. Rydych chi\u2019n rhoi awdurdod i ni drosglwyddo, prosesu, storio a defnyddio eich gwybodaeth mewn gwledydd ar wah\u00e2n i\u2019ch gwlad eich hun yn unol \u00e2\u2019r polisi Preifatrwydd hwn ac ar gyfer eich cyflenwi \u00e2 Gwasanaethau.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cydymffurfio \u00e2 cheisiadau cyfreithiol, rheoliadol a gorfodi\u2019r gyfraith\u00a0<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Rydym ni\u2019n cydweithredu \u00e2 swyddogion y llywodraeth a gorfodi\u2019r gyfraith i orfodi a chydymffurfio \u00e2\u2019r gyfraith. Fe allem ni ddatgelu unrhyw wybodaeth amdanoch chi i swyddogion y llywodraeth neu\u2019r heddlu neu bart\u00efon preifat, fel y gwelwn yn ddoeth, os credwn fod angen neu fod hynny\u2019n briodol i ymateb i honiadau a threfn gyfreithiol (fel ceisiadau gwysio), ar gyfer amddiffyn ein heiddo a\u2019n hawliau neu eiddo a hawliau trydydd parti, ar gyfer amddiffyn diogelwch y cyhoedd neu unrhyw unigolyn, neu ar gyfer rhwystro neu atal gweithgaredd yr ydym ni o\u2019r farn ei fod yn anghyfreithiol neu\u2019n anfoesol.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Hyd y graddau yr ydym ni \u00e2 chaniat\u00e2d cyfreithiol i wneud hynny, fe allem ni gymryd camau rhesymol i\u2019ch hysbysu os gorchmynir ni i roi eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti yn rhan o broses gyfreithiol. Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth hyd y graddau anghenrheidiol hefyd i gydymffurfio ag unrhyw reoliadau a pholis\u00efau.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Gwybodaeth Bwysig Arall<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Mae\u2019r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i weithgarwch Prosiect NUR ac i Ynni Teg.\u00a0Nid yw\u2019r Polisi Preifatrwydd hwn yn berthnasol i ymarferion y cwmn\u00efau nad ydynt ym meddiant neu dan reolaeth Ynni Teg, neu i bobl nad yw Ynni Teg yn eu cyflogi na\u2019u rheoli. Yn ogystal \u00e2 hynny, gallai rhai cynhyrchion trydydd parti fod \u00e2 pholis\u00efau ac ymarferion gwahanol nad ydyn nhw\u2019n ddarostyngedig i\u2019r Polisi Preifatrwydd hwn.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Newidiadau<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Bydd y Polisi Preifatrwydd hwn yn cael ei ddiweddaru wrth i Brosiect NUR ddatblygu, felly fe ddylech fwrw golwg drosto o dro i dro. Pe byddem ni\u2019n gwneud newidiadau sylweddol, fe fyddwn ni\u2019n rhoi rhybudd priodol i chi cyn i\u2019r cyfryw newidiadau gael eu rhoi ar waith.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Cwestiynau ac Awgrymiadau<\/h2>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Ar gyfer materion cysylltiedig \u00e2 phreifatrwydd a GDPR, gallwch gysylltu \u00e2 ni\u2019n benodol yngl\u0177n \u00e2 Phrosiect NUR yn&nbsp;hello@projectnur.cymru.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\">Os oes gennych chi gwestiynau, awgrymiadau neu eich bod yn dymuno gwneud cwyn, os gwelwch yn dda, cysylltwch \u00e2 ni drwy e-bost yn\u00a0<a href=\"mailto:info@ynniteg.cymru\">info@ynniteg.cymru<\/a>.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"wp-block-paragraph\"><em>Dyddiad: 13\/08\/2025<\/em><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae Prosiect NUR yn cael ei ddarparu gan YnNi Teg mewn partneriaeth \u00e2\u2019r Bengal Dragons Foundation. Mae\u2019r polisi preifatrwydd a ganlyn yn berthnasol i holl weithgarwch Prosiect NUR. Polisi preifatrwydd Rydym ni wedi llunio\u2019r datganiad preifatrwydd hwn i ddarparu gwybodaeth dryloyw, hawdd ei deall o ran ein defnydd ni o ddata. Fe fyddwch chi\u2019n deall [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-467","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/projectnur.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/467","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/projectnur.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/projectnur.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/projectnur.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/projectnur.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=467"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/projectnur.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/467\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":469,"href":"https:\/\/projectnur.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/467\/revisions\/469"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/projectnur.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=467"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}